Mae ymchwil yn IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cysylltu â’r ffermydd YG ac mae’n rhoi dilysiad gwyddonol i effeithiau arferion amaethyddol newydd a thechnolegau wedi’u haddasu.
Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar bum thema:
1. Gwella Pridd
Defnyddio arferion rheoli a chylchdroi cnydau i wella strwythur pridd a statws maetholion.
2. Porfeydd Amlrywogaeth
Defnyddio porfeydd amlrywogaeth yn cynnwys nifer o rywogaethau pori: gweiriau, planhigion porfa a chodlysiau i roi gwytnwch ac addasu i eithafion hinsawdd.
3. Sefydlu Porfeydd
Methodolegau a thechnolegau newydd ar gyfer sefydlu a gwella porfeydd newydd a rhai presennol. Y nod yw lleihau’r ddibyniaeth ar fewnbynnau a lleihau colledion dŵr, carbon a maetholion o’r pridd.
4. Cywasgiad Pridd
Defnyddio technolegau newydd i leihau cywasgiad pridd yn ystod gwaith mewn caeau.
5. Gwarchod Pridd
Datblygu systemau cnydio newydd (e.e. ffermio cyfuchlinol [contour farming]; cnydio stribed) ar gyfer gaeafu da byw yn yr awyr agored mewn tywydd gwlyb. Y nod yw cynyddu’r gorchudd pridd i leihau erydiad pridd a’r perygl o lifogydd.
Delwedd o'r awyr, © hawlfraint Jason Brook, IBERS [jkb@aber.ac.uk]