Mae PROSOILplus yn cynnwys rhwydwaith o fferm ymchwil gyfranogol (YG) a sefydlwyd yn 2009 fel rhan o’r cynllun PROSOIL. Mae’r ffermydd YG arloesol hyn yn ysbrydoli ymchwil gyfranogol ymysg ffermwyr eraill, gan hwyluso cyfnewidfa wybodaeth rhwng ffermydd.
Mae’r rhwydwaith o ffermwyr YG yn gweithredu’n lleol, trwy grwpiau rhanbarthol o ffermwyr, i ddatblygu syniadau newydd. Gyda’i gilydd, mae’r rhwydweithiau hyn o grwpiau ffermwyr yn gweithio i greu arferion ffermio newydd ac addasu technolegau amaethyddol sy’n bodoli eisoes.
Mae’r dull hwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng amaeth, ymchwil ac arloesedd, ac mae’r gweithgareddau ar y ffermydd YG yn sbarduno gweithgareddau ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'r gweithgareddau yn cael eu trefnu a’u darparu trwy dri phecyn gwaith integredig.
1. Ymchwil Gyfranogol gan Ffermwyr
- Cefnogi rhwydwaith o ffermwyr ledled Cymru, sy’n gweithio ar lefel leol i ysbrydoli arloesi mewn arferion ffermio ac addasu technolegau amaethyddol presennol o fewn systemau amaethyddol. Cynhelir gweithdai rhanbarthol rheolaidd ar gyfer ffermwyr gyda’r chwe fferm YG i hwyluso trafodaeth ymysg ffermwyr ac i rannu syniadau a gwybodaeth.
2. Dilysu Gwyddonol gan IBERS
- Cysylltir yr arferion a thechnolegau a ymchwilir iddynt ar y ffermydd YG â phlotiau tir wedi’u hatgynhyrchu yn IBERS, ac fe’i dilysir yn wyddonol drwy’r plotiau hyn.
3. Lledaenu
- Rhennir canfyddiadau allweddol y cynllun ar draws y gadwyn gyflenwi amaethyddol trwy gyfrwng – ac ar y cyd â – Cyswllt Ffermio a phartneriaid estyn allan eraill yn y diwydiant.