Cynllun PROSOIL
Cynllun PROSOIL, 2009 - 2015
Roedd cynllun PROSOIL IBERS yn fenter arloesol a oedd yn mynd i’r afael â’r amryw heriau sy’n gysylltiedig â rheoli pridd a hyrwyddo pwysigrwydd priddoedd iach ar ffermydd da byw yng Nghymru.
Roedd y cynllun PROSOIL yn gweithio gyda ffermwyr da byw yng Nghymru i gysylltu ymchwil wyddonol ar dechnegau rheoli pridd ag arferion ar ffermydd.
Efelychwyd yr arbrofion ar leiniau a’r gwaith maes a wnaed yn IBERS ar naw fferm datblygu masnachol ledled Cymru, gan alluogi cymariaethau gwyddonol cadarn er mwyn gweithio tuag at wella iechyd pridd trwy amryw o ddulliau.
Mae llyfryn y cynllun PROSOIL, sydd ar gael yma, yn rhoi gwybodaeth am y cynllun.
Yn gweithio gyda ffermwyr i wella iechyd pridd