Gan ddefnyddio’r eicon prif ddewislen (tri bar llorweddol) ar y dde ar frig y dudalen, gallwch ymweld ag amrywiol dudalennau ar wefan PROSOILplus. Bydd gan rai tudalennau ddewislenni unigol sy’n cysylltu ag adnoddau ychwanegol yn y rhan honno o’r wefan. Gallwch bori’r wefan hon yn Gymraeg neu yn Saesneg trwy glicio ar y ddolen iaith islaw’r ddewislen.
Bydd y mwyafrif o briddoedd yng Nghymru’n asideiddio dros amser a bydd angen taenu calch arnynt yn rheolaidd i gywiro pH y pridd. Mae’n hanfodol cynnal pH pridd ar y lefel cywir er mwyn cynnal iechyd a hyfywdra’r pridd. Bydd hyn yn sicrhau defnyddio maetholion yn effeithlon a thyfu glaswellt yn effeithiol.
Yn ddelfrydol, dylid cynnal pH eich pridd yn 6 neu’n uwch. Bydd pH pridd is na hyn yn arwain at aneffeithlonrwydd.
Yn IBERS Gogerddan, sefydlwyd lleiniau ar faes o dir pori hirdymor parhaol, gyda rhai rhannau wedi’u haredig a gwyndonnydd parhaol newydd wedi’u sefydlu arnynt. Byddwn yn archwilio effaith taenu calch dan wahanol arferion rheoli glaswelltir ar gyfansoddiad cemegol y pridd; a thrwy ddefnyddio'r technolegau diweddaraf, yn ymchwilio i sut mae calchu yn effeithio ar gymunedau microbaidd a ffwngaidd y pridd. Bydd cynhyrchiant a chyfansoddiad maethol y cnwd porthi’n cael ei fonitro dros dri thymor tyfu (2019–2021) i roi ffigurau cyfredol ar gyfer y diwydiant.
Triniaethau
Tir pori presennol – heb ei drin
Tir pori presennol – wedi’i drin â chalch calsiwm (wedi’i daenu ar yr wyneb)
Wedi’i aredig a’i ail hau – heb ei drin
Wedi’i aredig a’i ail hau – wedi’i drin â chalch calsiwm (wedi’i daenu ar yr wyneb)
Wedi’i aredig a’i ail hau – wedi’i drin â chalch calsiwm (wedi’i ymgorffori)