* Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023 *

?

Gan ddefnyddio’r eicon prif ddewislen (tri bar llorweddol) ar y dde ar frig y dudalen, gallwch ymweld ag amrywiol dudalennau ar wefan PROSOILplus. Bydd gan rai tudalennau ddewislenni unigol sy’n cysylltu ag adnoddau ychwanegol yn y rhan honno o’r wefan. Gallwch bori’r wefan hon yn Gymraeg neu yn Saesneg trwy glicio ar y ddolen iaith islaw’r ddewislen.

Yn ysbrydoli ffermwyr i warchod priddoedd

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis
Dysgu mwy

Menter dan arweiniad ffermwyr yw PROSOILplus, gyda’r nod o warchod priddoedd a manteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd y defnydd o faetholion ar ffermydd da byw. Rydym yn cefnogi rhwydweithiau lleol o ffermwyr sy’n gweithredu’n lleol ac yn ysbrydoli grwpiau rhanbarthol o ffermwyr.

Mae’r cynllun yn cefnogi ffermwyr i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu arferion rheoli pridd arloesol. Cysylltir yr arferion arloesol hyn â gweithgareddau ymchwil IBERS er mwyn eu dilysu’n wyddonol.

Y nod yw cynyddu proffidioldeb a gwytnwch y gadwyn gyflenwi amaethyddol. Cyflawnir hyn trwy ddatblygu ac addasu arferion a thechnolegau rheoli pridd arloesol.

Mae PROSOILplus yn ymdrin â phum maes ffocws sy’n gysylltiedig â phridd:

  • Rheoli a gwarchod tirweddau
  • Diogelu a gwella bioamrywiaeth; lliniaru newid hinsawdd
  • Rheoli priddoedd i ddiogelu stociau carbon a lleihau erydiad
  • Cefnogi gwaith cydweithredol sy’n galw am newidiadau technolegol
  • Lleihau goferiad dŵr wyneb a rheoli dŵr i helpu i leihau’r perygl o lifogydd

 

 

Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023

© Hawlfraint y cynlluniau PROSOIL a PROSOILplus  |  Ynghylch y Wefan Hon

- Yn ysbrydoli ffermwyr i warchod priddoedd -