Gan ddefnyddio’r eicon prif ddewislen (tri bar llorweddol) ar y dde ar frig y dudalen, gallwch ymweld ag amrywiol dudalennau ar wefan PROSOILplus. Bydd gan rai tudalennau ddewislenni unigol sy’n cysylltu ag adnoddau ychwanegol yn y rhan honno o’r wefan. Gallwch bori’r wefan hon yn Gymraeg neu yn Saesneg trwy glicio ar y ddolen iaith islaw’r ddewislen.
Mae sefydlu glaswelltir trwy ddrilio uniongyrchol neu hau ar yr wyneb yn gynyddol boblogaidd, ac mae’n arwain at leihau costau a manteision i iechyd y pridd. Fe wnaethom sefydlu arbrawf ym mis Ebrill 2019 i werthuso gwahanol ddulliau sefydlu er mwyn llywio eu mabwysiadu ar ffermydd.
Mae’r arbrawf yn gwerthuso a fydd cynyddu amrywiaeth yn y borfa’n gwella iechyd y pridd a’i wytnwch yn wyneb tywydd eithafol.
Heuwyd lleiniau naill ai ar ôl aredig neu trwy ddrilio uniongyrchol er mwyn asesu a fyddai’r dulliau hyn yn cynhyrchu cnwd tebyg, ond gyda llai o golledion carbon. Mesurir allyriadau nwyol y pridd er mwyn asesu effaith amgylcheddol mabwysiadu gwahanol ddulliau sefydlu.
Triniaethau porthiant
Rhygwellt parhaol a meillion cochion
Rhygwellt parhaol, meillion cochion, rhonwellt (timothy) a byswellt (cocksfoot)
Triniaethau sefydlu
Aredig a braenaru ar ôl glyffosad
Drilio uniongyrchol heb glyffosad
Drilio uniongyrchol ar ôl glyffosad
Bydd cynhyrchiant ac ansawdd y cnydau porthi a dangosyddion iechyd y pridd yn cael eu gwerthuso yn ystod yr astudiaeth dair blynedd hon.