Astudiaeth Cywasgiad Pridd
[ORIEL]
Yng ngham gyntaf yr astudiaeth hon, gwerthuswyd pum rhywogaeth porthiant dros gyfnod o dair blynedd cynhaeafu. Fe wnaethom astudio eu heffaith ar briodweddau pridd.
Yma, rydym yn archwilio effeithiau etifeddol y porthiannau hyn a gwerthuso sut mae’r strwythurau pridd a grëir gan y porthiannau hyn yn ymateb i gywasgiad pridd.
Mae cywasgiad yn cael effaith ddifrifol ar iechyd pridd. Bydd cywasgiad yn cynyddu dwysedd y pridd ac yn arwain at lai o symudiad aer a dŵr. Bydd yn effeithio ar dwf gwreiddiau a mynediad at faetholion, gan arwain at gnydau llai.
Taenwyd glyffosad ar y pum porthiant blaenorol a sefydlwyd porfa o rygwellt parhaol drwy ddrilio uniongyrchol i osgoi newid strwythur y pridd.
Defnyddiwyd tractor trwm a threlar i gywasgu’r pridd ar hanner pob un o’r plotiau.
Byddwn yn gwerthuso effeithiau etifeddol y porthiannau blaenorol er mwyn archwilio sut mae ymatebion yn wahanol mewn priddoedd wedi’u cywasgu a phriddoedd heb eu cywasgu.