Astudiaeth Gwella Pridd
[ORIEL]
Gall gwahanol borthiannau newid priodweddau ffisegol, cemegol a biolegol pridd. Er enghraifft, mae’r potensial gan borthiannau â gwreiddiau dyfnion i echdynnu mwy o fwynau, a dangoswyd fod meillion yn hybu gweithgaredd pryfed genwair sy’n gwella strwythur y pridd.
Gall sicrhau cytbwysedd da o fioleg pridd, paramedrau ffisegol a chyfansoddiad cemegol effeithio ar gynhyrchiant ac ansawdd cnydau porthi.
Yn yr astudiaeth hon, rydym yn archwilio effaith pump o rywogaethau porthiant a sut maent yn effeithio ar bryfed genwair a chyfraddau ymdreiddiad dŵr priddoedd; yn ogystal â chyfansoddiad a chynhyrchiant y borfa laswellt ddilynol mewn system cylchdroi.
Bydd rhygwellt parhaol, meillion gwynion, meillion cochion, llyriad (plantain) a sicori a blannwyd ym mis Awst 2017 yn cael ei fonitro am 3 - 4 blynedd. Yna, bydd rhygwellt parhaol yn eu dilyn yn y system cylchdroi i’n galluogi i werthuso’r effaith a gafodd y porthiant blaenorol.