Astudiaeth Porfeydd Amlrywogaeth
[ORIEL]
Gall gwahanol borthiannau newid priodweddau ffisegol, cemegol a biolegol pridd, felly’r nod wrth gyfuno nifer o rywogaethau â’i gilydd o fewn porfa yw optimeiddio’r manteision posibl hyn.
Mae’r astudiaeth hon yn gwerthuso effeithiau cyfuno rhywogaethau porthiant gydag amrywiol batrymau twf a strwythurau gwreiddio er mwyn asesu sut mae eu rhyngweithiad yn effeithio ar gynhyrchiant y cnwd porthi a’r maetholion a godir o’r pridd.
Heuwyd lleiniau’n cynnwys rhygwellt parhaol, sicori, meillion gwynion a meillion cochion ym mis Awst 2018.
Roedd porfeydd yn cynnwys cnydau ungnwd, cymysgeddau dwy rywogaeth, a chymysgeddau pedair rhywogaeth. Bydd cynhyrchiant y cnwd porthi, cyfansoddiad botanegol a chyfansoddiad cemegol y porfeydd yn cael eu monitro am dri thymor, ynghyd â phriodweddau’r pridd, er mwyn deall manteision y cymysgeddau porthiant amrywiol hyn i systemau da byw.