Rhual Dairy, Yr Wyddgrug, Gogledd Ddwyrain Cymru
Mr John a Mrs Anna Booth
[ORIEL]
[ASTUDIAETH ACHOS]
Math o Fferm
Llaeth
Mentrau
Gwartheg Holstein Ffresian a defaid
Uchder
800 o droedfeddi
Pridd
Lôm Tywodlyd
Ynghylch y fferm
Saif y fferm o fewn NVZ, mae arni bridd tywodlyd ysgafn ac mae ardaloedd preswyl yn gyfagos. Mae’r tir yn ymestyn i 475 erw gyda thua 70 erw o laswelltir ychwanegol yn cael ei rentu. glaswellt pellach. Mae cnydau eraill yn cynnwys 50 erw o indrawn a 25 erw o haidd gwanwyn i'w fedi yn sych. Mae’r da byw yn cynnwys 336 o fuchod Holstein Ffresian, sy’n pori ac yn cael eu bwydo gan system TMR a dwysfwyd yn y parlwr. Mae’r fuches yn lloia drwy gydol y flwyddyn. Mae tua 190 heffrod cyfnewid; pob un wedi’u magu gartref ac yn lloia yn 24 mis oed. Mae praidd o 100 o ddefaid Dorset Moelion ar y fferm hefyd. Eu targed cynnyrch llaeth yw tua 9000 litr y fuwch o tua 2.3t o ddwysfwydydd fesul buwch. Yr uchelgais ar hyn o bryd yw cynyddu’r hyn a gynhyrchir gan laswellt/cnydau porthi gan 1000 litr a chyflawni gwelliannau wrth reoli trosiant gwartheg. Caiff gwartheg eu gwelya ar fatresi gyda chibau wedi’u mathru. Taenir tail o’r peniau rhydd, a slyri sy’n ffurfio gweddill y gwrteithiau anifeiliaid. Caiff ei daenu gan blât tasgu sy’n taenu’n isel a chan dechnegau ag allyriadau isel fel crib daenu a bar diferu. Er bod indrawn a thatws yn cael eu tyfu mewn rhai rhannau, prif gynhalydd y glaswelltir yw gwyndonnydd hirdymor.
Y cynllun PROSOILplus ar y fferm
Hau dan gnwd o indrawn: mae’r cynllun PROSOILplus yn gweithio gyda John ac Anna i ddatblygu techneg ar gyfer hau glaswellt i mewn i’r cnydau indrawn yn gynnar yn nhwf yr indrawn. Disgwylir y gallai hyn helpu i warchod y priddoedd ysgafn yn y Rhual gan hefyd gyfrannu tir pori gwerthfawr i ddefaid naill ai ar ôl cynhaeaf yr indrawn neu yn ystod y gwanwyn canlynol.
John ac Anna
“Yn y dyfodol, anelwn at barhau i gynyddu ein cynnyrch llaeth a pharhau i fwynhau ffermio. Bwriadwn hefyd fod yn fwy hunangynhaliol a thyfu mwy o borthiant/deunyddiau gwelya yn hytrach na dibynnu ar eu prynu i mewn. Mae’n bwysig iawn ein bod yn edrych ar ôl y priddoedd er mwyn gwneud hyn."