* Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023 *

?

Gan ddefnyddio’r eicon prif ddewislen (tri bar llorweddol) ar y dde ar frig y dudalen, gallwch ymweld ag amrywiol dudalennau ar wefan PROSOILplus. Bydd gan rai tudalennau ddewislenni unigol sy’n cysylltu ag adnoddau ychwanegol yn y rhan honno o’r wefan. Gallwch bori’r wefan hon yn Gymraeg neu yn Saesneg trwy glicio ar y ddolen iaith islaw’r ddewislen.

Orchard View, Cwmcarfan, Trefynwy, De Ddwyrain Cymru

Mr John a Mrs Hilary Garn

[ORIEL]

[ASTUDIAETH ACHOS]

 

Math o Fferm

Defaid

Mentrau

Defaid Mynydd Duon Cymreig Pedigrî

Uchder

450 o droedfeddi

Pridd

Lôm Clai Tywodlyd

 

Ynghylch y fferm

Mae’r tyddyn hwn ger Cwmcarfan, 450 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr, yn cynnal praidd o ddefaid Mynydd Duon Cymreig pedigrî. Mae safle’r cynllun PROSOILplus wedi’i leoli ychydig o bellter oddi wrth y tyddyn ar 8 erw o dir rhent o amgylch Red Hill Fisheries. Mae’r praidd o tua 70 o ddefaid yn cael eu bridio’n bennaf ar gyfer sioeau. Mae’r rhan fwyaf o’r defaid benywaidd yn cael eu gwerthu ymlaen i’w bridio ac mae’r rhan fwyaf o’r meheryn yn cael eu gwerthu’n ŵyn i fwytai moethus lleol. Mae cryn alw am eu cig gan ei fod yn flasus iawn o ganlyniad i’w magu ar gynefin pori naturiol. Gallwch ddarllen mwy amdanynt ar wefan entrepreneuriaid New Food yma.

Y cynllun PROSOILplus ar y fferm

Mae’r tir, sy’n laswellt i gyd, yn sefyll ar briddoedd tywodfaen coch, a bydd y cynllun yn edrych ar effaith tros-hau llyriad (plantain) a meillion gwynion ar iechyd a chynhyrchiant priddoedd a glaswelltir.

John a Hilary

“Pan roedden ni’n ymgeisio i ymuno â’r cynllun PROSOIL, y cwbl oedden ni’n ei ddymuno oedd cael deall pori dethol ein praidd. Rydym wedi dysgu bod hynny’n ymwneud yn llwyr â’r borfa. Yn amlwg, y pridd yw ffynhonnell hynny. Cofiwn y dywediad, “we are what we eat” ac ni ellir tanbrisio pwysigrwydd pridd. Mae wedi bod yn siwrne ddiddorol dros ben, ac rydym yn ddiolchgar iawn i dîm PROSOIL am gael bod arni.”

Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023

© Hawlfraint y cynlluniau PROSOIL a PROSOILplus  |  Ynghylch y Wefan Hon

- Yn ysbrydoli ffermwyr i warchod priddoedd -