Gelli Fach, Post-mawr, Gorllewin Cymru
Mr Rhodri a Mrs Anwen Hughes
[ORIEL]
[ASTUDIAETH ACHOS]
Math o Fferm
Defaid ac Eidion
Mentrau
Gwartheg Duon Cymreig a Defaid Llŷn gyda meheryn Highlander
Uchder
500 - 650 o droedfeddi
Pridd
Lôm Clai Tywodlyd
Ynghylch y fferm
Mae Rhodri ac Anwen Hughes yn ffermio 130 erw ger Post-mawr yng Ngheredigion ac maent yn cadw praidd o 400 o ddefaid bridio. Defaid Llŷn yw 180 o’r rhain sy’n cael eu paru â maharen Llŷn indecs uchel. Defaid Llŷn x Highlander yw’r gweddill, sy’n cael eu paru â maharen Primera Aberfield indecs uchel. Mae yno hefyd 20 o wartheg cadw a fegir hyd y lladdfa. Eu nod erioed fu gwella a datblygu eu busnes ac maent yn aelodau gweithgar o grwpiau trafod ffermwyr lleol. Trwy gymryd rhan yn y cynllun PROSOIL (2010–2015) a nawr gyda’r cynllun PROSOILplus, mae ganddynt system o bori padogau ar waith gyda’r nod o gadw’r defaid allan gydol y gaeaf gan ddefnyddio cyn lleied o ddwysfwyd â phosibl. Mae iechyd a rheoli’r pridd cyn bwysiced ag erioed ac mae’r caeau’n parhau i gael eu samplo a’u monitro’n rheolaidd.
Y cynllun PROSOILplus ar y fferm
Testun y cynllun ar y fferm fydd edrych ar effaith sefydlu gwyndonnydd pori aml-rywogaeth trwy gymharu effaith tros-hau ag aredig/braenaru ar iechyd pridd mewn system cylchdroi ar gyfer pori defaid.
Rhodri ac Anwen
“Mae dysgu gan ffermwyr eraill ar rwydwaith ffermydd y cynllun PROSOIL wedi peri inni feddwl am y pridd, yn cynnwys cywasgiad a’i effaith ar gynhyrchiant glaswellt. Rydym am ddatblygu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu a gwella strwythur ein pridd, gan ein bod wedi darganfod bod rhai o'n caeau’n gywasgedig. Gobeithiwn ddefnyddio mwy o feillion a thyfu gwyndonnydd aml-rywogaeth eto i wella strwythur y pridd a lleihau’r symiau o nitrogen a roddir ynddo.”