Bank Farm, Yr Ystog, Dwyrain Cymru
Mr Clive a Mr Tom Pugh
[ORIEL]
[ASTUDIAETH ACHOS]
Math o Fferm
Llaeth
Mentrau
Gwartheg llaeth byrgorn, tir âr a defaid
Uchder
900 - 1,300 o droedfeddi
Pridd
Lôm Silt
Ynghylch y fferm
Fferm laeth yw Bank Farm, gyda mentrau âr a defaid ar uchder o 900 i 1,300 o droedfeddi. Mae 325 erw o dir, gyda mwy o dir glaswellt yn cael ei rentu yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Lôm silt yw’r priddoedd yn bennaf. Mae’r da byw yn cynnwys 120 o wartheg llaeth byrgorn, yn lloia yn yr haf yn bennaf, a 400 o ddefaid yn cynnwys defaid Sir Amwythig pur, defaid croesryw a rhai Defaid Llŷn. Mae’r Pughiaid yn cadw bio-dreuliwr ac yn prynu amrywiaeth fach o borthiannau gwastraff glân i gynhyrchu trydan a nwy i’w ddefnyddio ar y fferm. Defnyddir gweddillion treuliad anaerobig fel rhan o’r polisi gwrtaith a’r cynllun rheoli maetholion i gyflenwi anghenion y cnydau yn ôl y galw.
Y cynllun PROSOILplus ar y fferm
Defnyddir dril uniongyrchol i sefydlu grawn, cnydau bresych a gwyndonnydd glaswellt newydd ac mae wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu rhai cnydau gorchudd a thail gwyrdd, yn gymysgeddau ac yn ungnwd ar feysydd treial y cynllun. Bydd effaith y dull sefydlu a’r cnydau ar iechyd y pridd a chnydio yn y dyfodol yn cael ei fonitro.
Clive Pugh
“Allwn ni ddim newid y tywydd, ond os gwnawn ni ofalu am ein pridd, mi wnaiff ofalu amdanom ni pan ddaw’r glaw.”