* Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023 *

?

Gan ddefnyddio’r eicon prif ddewislen (tri bar llorweddol) ar y dde ar frig y dudalen, gallwch ymweld ag amrywiol dudalennau ar wefan PROSOILplus. Bydd gan rai tudalennau ddewislenni unigol sy’n cysylltu ag adnoddau ychwanegol yn y rhan honno o’r wefan. Gallwch bori’r wefan hon yn Gymraeg neu yn Saesneg trwy glicio ar y ddolen iaith islaw’r ddewislen.

Ynghylch y wefan hon

Telerau ac Amodau defnyddio gwefan PROSOILplus

Gwybodaeth Hawlfraint ac Ymwadiad

Cynhelir y wefan hon gan Brifysgol Aberystwyth. Oni nodir fel arall, mae’r holl wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn hawlfraint tîm y cynllun yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, a noddwr y cynllun. Er inni wneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth ar y tudalennau hyn, yn naturiol gall eu cynnwys newid. Ni fyddwn yn cael ein dal yn atebol dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth a gedwir ar y tudalennau hyn.

Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data

Mae Prifysgol Aberystwyth yn Rheolwr Data Cofrestredig fel y’i diffinnir gan Ddeddf Diogelu Data 1998. Caiff unrhyw fanylion personol amdanoch a gesglir drwy’r wefan hon ac a roddir gennych chi ei brosesu yn unol â’r Ddeddf, ac fe’u defnyddir at y diben neu ddibenion a nodir ar y dudalen berthnasol yn unig.

Gwefannau Allanol

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i safleoedd allanol, a gosodwyd rhai ohonynt gyda chaniatâd perchnogion y safleoedd hynny. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am gynnwys, argaeledd nag ansawdd unrhyw ddeunydd a gynhwysir ar safleoedd o’r fath ac ni ddylid ystyried bod dolenni i safleoedd allanol yn gymeradwyaeth gan y Brifysgol o unrhyw farn a fynegir neu wasanaeth a gynhigir gan y safleoedd hynny.

 

Dadansoddi data ar wefan PROSOILplus

Cyflwyniad

Er mwyn datblygu a gwella ansawdd y wefan hon, cesglir a dadansoddir data defnyddio’r safle. Caiff rhywfaint o’r data ei gasglu gan y gweinydd gwe a chesglir rhywfaint gan ddefnyddio cwcis olrhain a anfonir i borwr gwe pob ymwelydd â’r wefan.

Cwcis Olrhain

Mae defnyddio cwcis i olrhain y defnydd a wneir o wefannau yn dechneg sefydledig a arferir yn eang. Mae pob cwci olrhain yn rhoi gwybodaeth i ddangos sut mae ymwelydd yn symud o dudalen i dudalen, ond ni chedwir unrhyw ddata personol gan y system olrhain. Google Analytics yw’r system olrhain a ddefnyddir ar y wefan hon.

Google Analytics

Gwasanaeth dadansoddi ar gyfer y we a ddarperir gan Google, Inc (Google) yw Google Analytics. Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis”, sef ffeiliau testun a osodir ar eich cyfrifiadur i helpu’r wefan ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Mae’r wybodaeth a grëir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (yn cynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei drosglwyddo i Google a’i storio ganddynt ar weinyddion yn Unol Daleithiau America. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddiben gwerthuso eich defnydd o’r wefan, creu adroddiadau ar weithgaredd y wefan ar gyfer gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â gweithgaredd gwefannau a defnyddio’r rhyngrwyd. Gallai Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu pan fo trydydd parti o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Cewch wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr gwe, fodd bynnag sylwer y gall gwneud hyn olygu na fyddwch yn gallu defnyddio pob agwedd ar weithrediad y wefan hon. O ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi eich caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac at y dibenion a nodir uchod

 

 

 

Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023

© Hawlfraint y cynlluniau PROSOIL a PROSOILplus  |  Ynghylch y Wefan Hon

- Yn ysbrydoli ffermwyr i warchod priddoedd -