* Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023 *

?

Gan ddefnyddio’r eicon prif ddewislen (tri bar llorweddol) ar y dde ar frig y dudalen, gallwch ymweld ag amrywiol dudalennau ar wefan PROSOILplus. Bydd gan rai tudalennau ddewislenni unigol sy’n cysylltu ag adnoddau ychwanegol yn y rhan honno o’r wefan. Gallwch bori’r wefan hon yn Gymraeg neu yn Saesneg trwy glicio ar y ddolen iaith islaw’r ddewislen.

Pen y Gelli, Caernarfon, Gogledd Orllewin Cymru

Mr Alwyn a Mr Huw Phillips

[ORIEL]

[ASTUDIAETH ACHOS]

 

Math o Fferm

Defaid ac Eidion

Mentrau

Defaid Texel Pedigrî

Uchder

150 - 200 o droedfeddi

Pridd

Lôm Silt Tywodlyd

 

Ynghylch y fferm

Fferm o tua 160 erw gyda thir ger Afon Menai yw Pen y Gelli. Mae Alwyn a’i fab Huw yn cadw praidd o 400 o ddefaid: 240 o ddefaid Dorset Moelion (wyna ym mis Rhagfyr), ynghyd â 200 o Ddefaid Texel pedigrî cofnodedig gan Signet (sy’n wyna ym mis Mawrth), ac 20 o fuchod sugno Limousin. Lôm tywodlyd yw’r priddoedd sy’n cynnal y mentrau eidion a defaid. Rheolir pori’r fenter defaid ar system cylchdroi gyda phadogau 1 hectar.

Y cynllun PROSOILplus ar y fferm

Sefydlu betys porthiant gan ddefnyddio technegau troi tir lleiafsymiol.

Mae’r cynllun hwn yn archwilio ffyrdd o sefydlu betys porthiant gan ddefnyddio dull lleiafsymiol o droi’r tir (min till) o’i gymharu â rhaglen lawn o aredig i gyflenwi cnwd uchel ei brotein ac egni i ddefaid wedi'u gaeafu.

Alwyn Phillips

“Trwy wirfoddoli i’r cynllun PROSOIL, fe ddysgais mai’r man dechrau ar gyfer tyfu glaswellt llwyddiannus yw priddoedd iach. Mae awyru wedi gwella fy mhriddoedd – ac wedi cynyddu niferoedd pryfed genwair. Pan ddechreuais i, roeddwn i’n meddwl, fel y mae’r rhan fwyaf o ffermwyr, bod dadansoddi pridd ar sail N, P, K a pH cywir yn ddigonol. Mi wn erbyn hyn fod cymaint o ffactorau pwysig eraill i’w hystyried wrth dyfu glaswellt gwell a gwella strwythur y pridd. Fy nod rŵan yw mynd ati’n ymarferol i roi’r hyn rwyf wedi’i ddysgu ar waith ar draws y fferm gyfan yn cynnwys caeau âr. Dywedir wrthym fod angen cynhyrchu mwy gyda llai, ac mae’r cwbl yn dechrau gyda phridd iach.”

Daeth y cynllun hwn i ben ym mis Mawrth 2023

© Hawlfraint y cynlluniau PROSOIL a PROSOILplus  |  Ynghylch y Wefan Hon

- Yn ysbrydoli ffermwyr i warchod priddoedd -