Lan Farm, Meidrim, San Clêr, De Orllewin Cymru
Mr Stuart Evans
[ORIEL]
[ASTUDIAETH ACHOS]
Math o Fferm
Llaeth
Mentrau
Gwartheg Ffresian Prydeinig
Uchder
350 - 450 o droedfeddi
Pridd
Clai Silt
Ynghylch y fferm
Fferm 200 erw ar denantiaeth busnes yw Lan Farm, sy’n cael ei ffermio ar y cyd â Pharceithin, sy’n 70 erw arall. Mae Lan rhwng 350 a 450 o droedfeddi uwchlaw lefel y môr ac mae tir Parceithin yn llawer trymach, wedi’i ffurfio o glai, a saif tua 50 troedfedd uwchlaw lefel y môr.
Mae Stuart yn cadw buches odro o tua 100 o wartheg Ffresian Prydeinig yn bennaf (ynghyd ag ambell i groesfrid) sydd mewn dau floc lloia (Chwefror – diwedd Ebrill ac Awst – Hydref). Y nod yw ceisio darparu cyflenwad eithaf cyson o laeth i Rachel’s Dairy yn Aberystwyth. Mae’r fuches yn cyflawni cyfartaledd o 6400 litr fesul buwch y flwyddyn wedi’u porthi gan 1.4 tunnell o ddwysfwyd. Caiff gwartheg eu gaeafu ar fatresi a’u porthi â silwair; yn yr haf, maent yn pori glaswellt ac yn mwynhau golygfeydd o’r bryniau uwchlaw Meidrim. “Rwy’n gobeithio archwilio’r opsiwn o dyfu maip sofl ar gyfer pori’n hwyr yn yr haf ac i roi seibiant cyn ail-hau yn y gwanwyn canlynol gyda gwyndonnydd o feillion cochion.”
Y cynllun PROSOILplus ar y fferm
Byddwn yn gwerthuso addasrwydd tyfu lwsérn a meillion cochion fel cnydau unigol ynghyd â thyfu cnwd o’r ddau wedi’u cyfuno er mwyn cynhyrchu protein wedi’i dyfu ar y fferm, gan werthuso a’u heffaith ar iechyd, strwythur a gweithgaredd y pridd.
Stuart Evans
“Gobeithio bydd y cynllun PROSOILplus yn fy ngalluogi i archwilio’r opsiwn o gynnwys lwsérn yn y blynyddoedd i ddod. O’i gyfuno â defnyddio meillion cochion, fy ngobaith fyddai cynyddu’r protein yn y silwair a lleihau’r angen i brynu bwydydd cyfansawdd yn y gaeaf. Bydd cynhyrchu mwy o borthiant yn fy ngalluogi i wireddu fy nharged o 120 o wartheg.”