Nid yw'r holl faetholion mewn slyri / tail ar gael i'r planhigyn oherwydd colledion o drwytholchi, goferiad dŵr neu i'r awyrgylch. Mae'r colledion hyn yn dibynnu ar y math o dail, deunydd sych, amser y taenu a'r math o bridd. Nid yw'r argaeledd P a K yn amrywio fawr ddim, ond mae argaeledd nitrogen yn newid yn fawr.
Canran o gyfanswm y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd nesaf ar ôl ei roi ar yr wyneb
Page 31 of 44
Er mwyn gwneud y defnydd gorau o faetholion a lleihau colledion:
Dylech osgoi cyfnodau risg uchel. Mae taenu yn hwyr yn yr hydref ac yn gynnar yn y gaeaf yn aml yn golygu glawiad uchel sy’n arwain at drwytholchi a goferiad ar yr wyneb, ac mae’r tymereddau pridd yn is yn lleihau’r maetholion a godir i’r planhigion
Mae taenu ar yr wyneb yn yr haf yn dueddol o weld colledion uchel fel nwy amonia yn enwedig o ddeunydd sy’n cynnwys llawer o ddeunydd sych. Ystyriwch ddefnyddio chwistrell neu grib daenu ar gyfer taenu slyri
Dylech osgoi ardaloedd risg uchel, yn enwedig yn ystod cyfnodau risg uchel. Dylid osgoi taenu ar lethrau serth, tir dan ddŵr a thir wedi rhewi
Dylech osgoi taenu’n drwm. Mae rhoi mwy na 35m3/ha (3,150 galwyn/erw) mewn un taeniad yn debygol o orlwytho'r system gan gynyddu'r siawns o golledion yn ogystal â niweidio'r borfa a lladd pryfed genwair
Defnyddiwch yr hyn sydd ei angen ar y cnwd yn unig, gwiriwch indecsau’r pridd a chofiwch gyfrif am y maetholion mewn slyri
Gwiriwch fod peiriannau taenu (gan gynnwys rhai’r contractwyr) yn cael eu calibradu’n gywir a’u bod yn taenu'n gywir
Dylech lunio cynllun rheoli tail clir a'i drafod gyda'ch contractwr